SL(5)246 – Cod Ymarfer ar gyfer Lles Cŵn
Cefndir a Diben
Mae’r Cod Ymarfer hwn yn cael ei ddyroddi o dan adran 14 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 (y “Ddeddf”). Mae’r Cod Ymarfer hwn yn berthnasol i Gymru yn unig, a chaiff ei ddyroddi gan Weinidogion Cymru. Mae’n dod i rym ar 12 Tachwedd 2018. Mae’n berthnasol i bob ci y mae unigolyn yn gyfrifol amdano.
Mae'n disodli'r Cod Ymarfer presennol ar gyfer Lles Cŵn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2008.
Bu Llywodraeth Cymru yn adolygu'r Cod presennol ac yn ymgynghori arno yn ystod hydref 2017.
Mae Atodiad 1 i'r Cod yn cyfeirio at y ddeddfwriaeth berthnasol. Pan ddyfynnir o ddeddfwriaeth a wnaed gan ddefnyddio'r arddull drafftio traddodiadol rhyw benodol (rhagenwau gwrywaidd), mae'n gwneud hynny'n fanwl gywir, ond dim ond ar gyfer cywirdeb llym. Yn yr un modd, nid yw deddfwriaeth a wnaed yn Saesneg yn unig yn cael ei chyfieithu i'r Gymraeg.
Gweithdrefn
Rhoddwyd y pŵer i wneud Codau o'r math yma i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 tra oedd yn un corff, ac ni phennwyd unrhyw weithdrefn. Ar ôl creu Llywodraeth Cymru fel endid cyfreithiol ar wahân o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ('Deddf 2006') trosglwyddwyd y pŵer i Weinidogion Cymru. O dan y darpariaethau trosiannol yn Atodlen 11 i Deddf 2006, daeth codau yn ddarostyngedig i'r un weithdrefn ag a oedd eisoes yn gymwys i godau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr.
Rhaid gosod drafft o'r cod gerbron y Cynulliad. Os bydd y Cynulliad, o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw adeg pan fo'r Cynulliad yn cael ei ddiddymu neu mewn cyfnod o doriad am fwy na 4 diwrnod) ar ôl gosod y drafft yn penderfynu peidio â chymeradwyo'r cod drafft, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â dyroddi'r cod.
Os na wneir penderfyniad o'r fath, rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi'r cod (ar ffurf drafft) a daw'r cod i rym yn unol â'i ddarpariaethau. Y dyddiad arfaethedig yn yr achos hwn yw 12 Tachwedd 2018.
Craffu o dan Reol Sefydlog 21.7
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb gan y llywodraeth.
Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd
Mae cyfraith yr UE yn cynnwys gofynion cyfreithiol sy'n ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid, yn enwedig o ran symud anifeiliaid.
Mae'r Cod hwn yn adlewyrchu gofynion y ddeddfwriaeth honno, a fydd yn gyfraith yr UE a ddargedwir yn rhinwedd Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Bydd y fframwaith deddfwriaethol hwnnw yn parhau mewn grym nes iddo gael ei ddiwygio. Mae Llywodraeth y DU wedi enwi lles ac iechyd anifeiliaid ac olrhain anifeiliaid yn feysydd lle bydd angen fframwaith polisi cyffredin ar draws y DU pan fydd y DU yn ymadael â'r UE.
Mae'n debygol y bydd y Rheoliad yn parhau mewn grym, yn enwedig mewn perthynas â chŵn sy'n cael eu cludo'n rheolaidd rhwng y DU a gweddill yr UE. Mater i'r pedair llywodraeth yn y DU fydd penderfynu sut, ac i ba raddau, y bydd y materion hyn yn parhau'n berthnasol i gŵn na fwriedir iddynt adael y DU. Bydd angen adolygu'r Cod hwn wrth i'r polisi a'r cyd-destun deddfwriaethol ddatblygu.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Awst 2018